|
Rhif y ddeiseb: P-06-1365
Teitl y ddeiseb: Ailagor rheilffyrdd i gysylltu gogledd a de Cymru
Geiriad y ddeiseb: Mae’r daith rhwng gogledd a de Cymru bob amser yn un hir, yn enwedig wrth ddefnyddio’r rheilffyrdd. Mae teithio ar y trên rhwng Bangor a Chaerdydd yn golygu bod rhaid i rywun fynd y tu allan i Gymru i allu cyrraed pen y daith.
Mae angen i’r rheilffyrdd gysylltu Cymru yn fewnol. Y cynllun ar gyfer gwneud hyn fyddai ailagor llinellau Bangor - Afon-wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac integreiddio’r rhain â lein y Cambrian, a’r lein o Gaerfyrddin i Gaerdydd.
Dyma’r hyn y mae’r ddeiseb hon yn galw’n benodol amdano:
- Astudiaeth Cwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer y lein rhwng Bangor ac Afon-wen - Ymrwymiad i wario unrhyw arian a geir gan San Steffan ar gyfer y rheilffyrdd ar adfer llinellau rheilffyrdd. - Datblygu glasbrint o’r llwybr rheilffordd rhwng Bangor a Chaerdydd o ran y llwybr arfaethedig - Edrych ar lwybrau eraill o fewn Cymru y byddai eu hailagor yn fuddiol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol
Os ydym am ddatblygu seilwaith Cymru, a defnyddio dull gwyrddach o deithio, byddai adfer ac ailagor y rheilffyrdd hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir a fyddai hefyd o fudd nid yn unig i bob cymuned ar hyd y rheilffordd, ond i Gymru fel gwlad. |
Ar wahân i Linellau Craidd y Cymoedd, a drosglwyddodd i berchnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2020, nid yw’r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi yn y rheilffyrdd, nid yw Cymru yn cael dyraniad grant bloc.
Cafwyd nifer o ddadleuon yn awgrymu nad yw seilwaith rheilffyrdd Cymru yn cael ei ariannu’n ddigonol - yn fwyaf diweddar mewn perthynas â phenderfyniad Llywodraeth y DU i gategoreiddio prosiect HS2 yn brosiect ar gyfer Lloegr a Chymru. Yn 2021, gwnaeth Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin gyfres o argymhellion yn dilyn ei ’ymchwiliad i’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Roedd hyn hefyd yn cynnwys argymhelliad i gategoreiddio HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig.
Yn 2019, wrth alw i’r seilwaith rheilffyrdd gael ei ddatganoli’n llawn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Rheilffordd i Gymru’, yn cyflwyno’i gweledigaeth ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd. Rodd hyn yn cynnwys datblygu nifer o goridorau strategol a oedd yn cynnwys cysylltiad rwng y gogledd a’r de. Awgrymodd y gallai hyn gynnwys uwchraddio rheilffyrdd, ailagor rheilffyrdd ac adeiladu rheilffyrdd newydd.
Mewn blog y gyhoeddodd yn 2021 , awgrymodd Trafnidiaeth Cymru fod y ffaith nad oes rheilffordd yn cysylltu’r gogledd a’r de heb groesi’r ffin i’w briodoli i ddaearyddiaeth a hanes Cymru. Dywedodd hefyd na fyddai’n ddigon adfer yr hen reilffyrdd drwy ganolbarth a gorllewin Cymru (fel y mae’r deisebydd yn galw amdano). Awgrymodd:
…the routes would not be suitable for a north-south intercity service, because their meandering nature would mean journey times would be far longer than via the current route. As well as this, the former track beds of these routes were sold off and redeveloped in many places, making rebuilding of the old railway almost impossible.
Mae’r deisebydd yn galw’n benodol am i’r lein rhwng Afonwen a Bangor a’r lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ailagor. Yn ei Gynllun Busnes ar gyfer 2023-24,, mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud y bydd yn:
…continue to investigate measures that can be implemented to further protect the former rail corridor between Carmarthen and Aberysytwyth and Bangor and Afon Wen. We’ll work with local authorities and the [Corporate Joint Committees] to have the routes recognised within their Regional Transport Plans.
Y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyn hyn pa mor ymarferol fyddai ailagor y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Yn 2018, cyhoeddodd astudiaeth dichonoldeb yn ystyried costau a buddiannau ailagor y lein. Yr amcangyfrif oedd y byddai’n costio £775 miliwn at ei gilydd ar sail prisiau 2017.
Mewn cyfarfod o bwyllgor craffu Cyngor Sir Ceredigion ym mis Ebrill 2023, awgrymodd yr Athro Stuart Cole ei bod yn dra annhebygol, ar sail yr amcangyfrif o’r gost, y byddai’r rheilffordd yn cael ei datblygu yn ystod y 30-40 mlynedd nesaf.
Y lein rhwng Bangor ac Afonwen
Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fap yn dangos ei huchelgais ar gyfer prif linell Gogledd Cymru. Roedd yn cynnwys ymrwymiadau o ran gwaith, dyheadau tymor byr a chynigion eraill yn amodol ar ddatblygu achos busnes manylach. Roedd hyn yn cynnwys lein rhwng Bangor a Phorthmadog, a oedd ymhlith y ‘cynigion ychwanegol.’
Fel y clywsom ar y cyfryngau, cododd hyn obeithion ymgyrchwyr y byddai’r lein rhwng Bangor ac Afonwen yn cael ei hailagor.
Yn 2020, sefydlodd Llywodraeth y DU y ‘gronfa adfer eich rheilffordd’ i ddarparu cyllid ar gyfer syniadau cychwynnol i ystyried opsiynau i adfer hen gysylltiadau rheilffyrdd coll. Ym mis Mehefin 2022, dangosodd ydiweddaraf am y rhaglen fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cais yn ymwneud â’r lein rhwng Bangor ac Afonwen, ond aflwyddiannus fu’r cais (gweler Atodiad C).
Pan baratowyd y papur hwn, nid oedd ymateb i’r ddeiseb wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru. Mae’r camau perthnasol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’u cynnwys yn yr adran uchod yn rhoi’r cefndir.
Mae’r ffaith bod y rhai sy’n mynd yn ôl ac ymlaen rhwng gogledd a de Cymru yn gorfod teithio drwy Loegr wedi’i godi yn aml yn y Senedd.
Ym mis Tachwedd 2020, gofynnodd Llyr Gruffydd AS i Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pryd, pa gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei gynnig ar gyfer cynllun i ailagor y lein rhwng Bangor ac Afonwen. Mewn ymateb, cyfeiriodd y Gweinidog ar y pryd at yr astudiaethau amrywiol a oedd yn cael eu cynnal yn ystyried cysylltiadau rhwng gogledd a gorllewin Cymru,
Mae’r syniad o ailagor y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin hefyd wedi’i godi’n aml yn y Senedd. Ym mis Mehefin 2022, gofynnodd Natasha Asghar AS am y wybodaeth ddiweddaraf a chafodd ymateb gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
The Aberystwyth to Carmarthen Feasibility Study published in 2018 estimated the cost of reinstatement of the line at £775m. Following the publication of the study, we identified the west coast line, including Aberystwyth to Carmarthen, as a key strategic corridor development in our response to the UK Government’s Williams Rail Review. This was part of a clear, comprehensive and conclusive case for full rail devolution and a fair funding settlement.
Yn fwy diweddar, ym mis Hydref 2023, cyflwynodd Deleyth Jewell AS gwestiwn ysgrifenedig yn ymwneud â’r lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Pan baratowyd y papur hwn, nid oedd ateb wedi dod i law gan y Dirprwy Weinidog.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |